
Mae Ysgol Betws-y-Coed yn un o Ysgolion Ffederasiwn Capel Coed-Elan, sef ffederasiwn o dair ysgol fach, wledig sydd yn uwch ddyffryn yr afon Gonwy.
Mae hi’n ysgol Gynradd Sirol o ddosbarth Meithrin hyd at flwyddyn 6.
Dynodir yr ysgol yn Ysgol Gymraeg yn ôl polisi iaith yr awdurdod addysg. Cymraeg yw’r prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol, ac anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i’r uwchradd.
Ein gweledigaeth yma yw sicrhau addysg, profiadau a chyfleoedd o’r ansawdd orau bosibl er mwyn galluogi POB plentyn i ddatblygu i’w lawn botensial i fod yn unigolyn annibynnol, hyderus a llwyddiannus ar gyfer cymdeithas sy’n prysur newid; gwneir hyn o fewn awyrgylch gefnogol, gartrefol a hapus ein hysgol - ac felly ein harwyddair yw ‘Ynghyd a’r daith – tyfu â phob cam.’
Pennaeth Strategol: Mrs Nia H. Jones-Artell
Cyfeiriad: Ysgol Betws y Coed, Ffordd Gethin, Betws y Coed, Conwy, LL24 0BP
Rhif Ffôn: 01690 710581
E-bost: pennaeth@betwsycoed.conwy.sch.uk




